Mae Bethan Jenkins AC wedi rhybuddio am ddefnydd gwleidyddion o Twitter heddiw.

Daw hyn wedi i Aelod Seneddol dros Ogledd Hackney a Stoke Newington, Diane Abbott orfod ymddiheuro ar ôl honni bod “pobol croenwyn wrth eu bodd yn chwarae’r gêm ‘rhannu a choncro’.”

Mae wedi wynebu galwadau niferus am ei hymddiswyddiad yn sgil y sylwadau, ac mae’r Blaid Lafur ei hun wedi ei cheryddu, gan ddweud ei bod hi’n “anghywir” i wneud y fath “sylwadau cyffredinol.”

Yn ôl Bethan Jenkins, mae angen i wleidyddion ddeall fod posib tynnu  rhannau o sgyrsiau o’u cyd-destun ar y wefan.

Mae’n cyfaddef hefyd bod y ffordd mae hi’n defnyddio Twitter wedi newid bellach.

“Nid bod pobol angen gwersi ar sut mae defnyddio fe – ond mae eisiau i wleidyddion ddeall nad yw rhai pethau am gael eu cymryd yn eu cyd-destun – dyna natur Twitter,” meddai.

‘Dadleuon mawr gwleidyddol’

“Yn y dechrau, ro’n i’n trio gwneud dadleuon mawr gwleidyddol ac wedyn mae’n edrych fel bod chi’n dadlau heb angen gyda gwleidyddion eraill.

“Dw i’n defnyddio fe nawr i gael trafodaethau mwy syml am beth yw Plaid Cymru, pam dylai pobl ymuno, a ‘dw i’n trio bod yn fwy eang yn hytrach na chael dadleuon dwys,” meddai’r AC.

“Mae angen i ni fel gwleidyddion fod yn hollol ymwybodol beth rydan ni’n ddweud, pam rydan ni’n ei ddweud e. Hefyd, bod yn ymwybodol bod pobol yn gallu gweld tweets a chymryd e’ mas o’i gyd-destun.

“Falle dyle hi [Diane Abbott] wneud blog neu erthygl bapur newydd os mae hi moyn trafodaeth am imperialaeth. Rydw i’n defnyddio fy mlog i ehangu ar ddadl ac wedyn rhoi linc ar Twitter.”

Mae gan Bethan Jenkins dros 2,900 o ddilynwyr ar Twitter.


Trydar anffodus Ed Miliband
Blockbusters

Roedd Bethan Jenkins yn siarad â Golwg360 eiliadau cyn i drydarwyr fynd yn wyllt heddiw ar ôl i Ed Milliband roi ei droed ynddi gyda sylw ar y wefan.

Yn ei deyrnged i’r cyflwynydd teledu, Bob Holness a fu farw heddiw, mae’n debyg bod arweinydd y Blaid Lafur wedi cyfeirio at y gyfres boblogaidd Blockbusters fel ‘Blackbusters’.

Ymhen eiliadau, roedd y term #blackbusters yn ‘trendio’ a Twitter yn frith o jôcs am y gwleidydd a’i gamwedd.