Mae Cyngor Gwynedd yn cyflwyno biniau newydd er mwyn atal gwylanod rhag creu llanast.

Bydd gan y biniau gwyrdd ac aur fflapiau arbennig er mwyn atal y gwylanod rhag cael mynediad a chreu llanast – a rhagor o waith i’r awdurdod lleol.

Dywedodd y cyngor eu bod arian gan Lywodraeth y Cynulliad wedi bod o gymorth wrth dalu am osod y biniau sbwriel.

Mae’r biniau hefyd yn cynnwys blwch llwch arbennig er mwyn dal boniau sigarennau.

“Does yna ddim esgus i unrhyw un adael sbwriel yn y stryd ar ôl cyflwyno’r biniau newydd yma,” meddai Gareth Roberts sydd â chyfrifoldeb am yr amgylchedd ar y cyngor.

“Fe fydd unrhyw un sy’n gwneud hynny yn peryglu cael dirwy o £75.”