Margaret Thatcher
Bydd y ffilm hir ddisgwyliedig am Margaret Thatcher yn agor yn y sinemâu  yfory, gyda Meryl Streep yn portreadu’r ‘Iron Lady’ – gydag ychydig o help gan actores o Rydaman.

Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf i gynulleidfa wadd yn Llundain neithiwr, ac mae’r portreadau o Margaret Thatcher wedi cael canmoliaeth, er bod y ffilm drwyddi draw wedi cael ymateb ychydig mwy llugoer.

Meryl Streep sy’n chwarae rhan Margaret Thatcher y Prif Weinidog, ond cyn-actores o Bobol y Cwm sy’n chwarae rhan y Margaret Thatcher ifanc.

O Gwm Deri i Dŷ’r Cyffredin…

Merch o Rydaman yw Alex Roach, a hi sy’n chwarae rhan Margaret Thatcher yn ei blynyddoedd gwleidyddol cynnar wrth iddi geisio ennill ei phlwyf, a’i grym, mewn plaid Geidwadol llawn dynion dros eu canol oed.

Roedd Alex Roach yn actio cymeriad y ferch ysgol ‘Elin’ ar Bobol y Cwm am gyfnod yn ei harddegau, a hyd yn oed bryd hynny roedd hi’n ennill cydnabyddiaeth fel actores dalentog, gan gipio gwobr yr Actores Ifanc Orau yng Ngwobrau Blynyddol Plant mewn Adloniant Prydain, yn 2003, a hithau’n 15 oed.

Canmol cymeriadau, ond nid y ffilm

Ymateb cymysg sydd wedi bod i’r ffilm hyd yn hyn, gyda chlod mawr i’r actio ond cwestiynau mwy am gynnwys y ffilm, sy’n delio tipyn â chyflwr Margaret Thatcher wrth iddi ddioddef o’r cyflwr  Alzheimer’s.

Mae colofnydd ffilmiau’r Dail Mail, Chris Tookey, wedi rhoi dwy seren allan o bump i’r ffilm, gan ddisgrifio’r cyfanwaith fel “camsyniad rhyfeddol.”

Mae’n dweud fod gan y ffilm “yr holl soffistigeiddrwydd economaidd a gwleidyddol oedd gan Mamma Mia” – sef ffilm gyntaf y cyfarwyddwr Phyllida Lloyd, ond yn diffygio mewn pob ffordd yn y “rhinweddau oedd yn ei gwneud hi [Margaret Thatcher] yn gymeriad mor aruthrol ac unigryw.”

Ond roedd e yn canmol y portread “anhygoel o gywir” o Margaret Thatcher.

Mae adolygydd ffilmiau’r Times wedi rho tair seren allan o bump i’r ffilm, ond wedi rhoi clod ychwanegol i Meryl Streep, gan ddisgrifio’i phortread o Margaret Thatcher fel “perfformiad pum-seren wedi ei gaethiwo i ffilm tair seren.”

Mae’r cyn AS Torïaidd Mathew Parris wedi canmol perfformiad Meryl Streep o’i gyn-fos fel un “aruthrol,” ac wedi amddiffyn y ffilm o’r feirniadaeth sydd wedi bod ar y portread o’r Arglwyddes Thatcher, gan ddweud nad oedd y ffilm “yn amharchus o gwbwl” ac nad oedd unrhyw awgrym o “ddychan na sarhad” ynddo.