Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar wraig yn ystod oriau man  Dydd Calan.

Roedd dynes 30 blwydd oed yn cerdded heibio’r gamlas am tua 2.45am  ger Cae Yr Ebol, Pontnewydd, Cwmbrân pan ddaeth dyn ati a dechrau siarad gyda hi cyn ymosod arni.

Er iddo afael ynddi, ar ôl iddi sgrechian fe redodd y dyn i ffwrdd. Cafodd y ddynes anafiadau i’w gwddf.

Mae’r dyn yn cael ei ddisgrifio fel 5’5” o daldra ac yn ei bedwardegau. Roedd yn gwisgo siaced ddu.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.