Alun Michael
Mae’r Aelod Seneddol a’r cyn-aelod o Gabinet San Steffan, Alun Michael, wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll yn etholiad Comisiynydd heddlu a throseddu cyntaf de Cymru.

Yn ddiweddarach eleni, fe fydd 41 awdurdod heddlu Cymru a Lloegr, ag eithrio Llundain, yn ethol Comisiynydd.

Mae’r penderfyniad yn rhan o amcan y Deyrnas Unedig i wella safonau heddlua.

Yn ganolog i’r syniad o gael Comisiynydd yw’r egwyddor mai’r Comisiynydd ar gyfer bob awdurdod fydd yn bennaf gyfrifol am unrhyw beth sy’n digwydd o fewn yr awdurdod – a bydd y cyhoedd yn cael y cyfle i roi eu barn am y Comisiynydd trwy’r system bleidleisio.

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Alun Michael, sy’n 68 oed, wedi dweud ei fod yn teimlo’n addas iawn ar gyfer y swydd, yn sgil ei brofiadau gyda materion heddlua – o’i gyfnod yn y Swyddfa Gartref ac ar lefel mwy lleol.

“Os ydyn ni’n credu bod creu comisiynwyr heddlu yn syniad da neu syniad drud, ar adeg o doriadau enfawr, mae’r ddeddfwriaeth yn ei lle, felly mae’n mynd i ddigwydd, ac mae’n rhaid i ni wneud iddo weithio,” meddai.

“Mae hynny’n golygu bod angen y dynion a’r menywod iawn i sefyll am gael eu hethol, rhai sy’n barod i weithio mewn partneriaethau heriol gyda phrif gwnstablau a’r gwasanaeth heddlu, er mwyn bod yn llais i’r gymuned mewn sawl ffordd.”

Wrth siarad â Golwg 360 ddoe, dywedodd Alun Michael fod creu perthnasau gwell rhwng heddluoedd Prydain â’u cymunedau yn holl bwysig er mwyn creu system effeithlon o heddlua.

“Mae sicrhau cysylltiad rhwng yr heddlu a’r cyhoedd yn holl bwysig,” meddai wrth Golwg 360.

“Mae’n her anodd, yn enwedig yn y sefyllfa o doriadau sy’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai, “ond mae hi mor bwysig nawr ag erioed.”

Mae’r Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth wedi bod yn ganmoladwy iawn o system heddlua De Cymru yn y gorffennol, ac mae’n credu bod gan yr awdurdod llawer i ddysgu i awdurdodau eraill wrth ymestyn allan i’r gymuned.

“Y rheswm na welwyd terfysgoedd yn ne Cymru dros yr haf llynedd oedd am fod cysylltiad gwell gyda heddlu Cymru â’u cymunedau,” meddai Alun Michael wrth Golwg 360.

Ond fe fydd y system newydd o ethol Comisiynydd yn cymryd lle y strwythur awdurdodau heddlu presennol. Fe fydd gan y Comisiynwyr y grym i benderfynu ar y strategaeth heddlua, yn ogystal â rheoli cyllideb yr heddlu, gyda’r grym i godi neu ostwng y cyfraniad o dreth y cyngor, ac i ddiswyddo’r prif gwnstabl.

Ond ni fydd gan y comisiynwyr reolaeth dydd-i-ddydd dros heddlua, ac ni fydd hawl ganddyn nhw ddweud wrth swyddogion pwy i’w harestio.

Mae sôn y bore ’ma hefyd y gallai Elfyn Llwyd fod yn ystyried sefyll fel Comisiynydd Heddlu’r Gogledd pan ddaw hi’n adeg enwebu ymgeiswyr.

Fe fydd yr etholiadau ar gyfer penodi Comisiynwyr newydd yr heddlu a throseddu yn cael eu cynnal ar draws y DU ar 15 Tachwedd eleni.