Gary Speed
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd gêm yn cael ei chynnal er cof am gyn reolwr Cymru Gary Speed gyda’r arian a gesglir yn mynd at elusen.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 29 Chwefror am 7.45pm pan fydd Cymru’n herio Costa Rica, sef y tîm yr oedd Gary yn ei wynebu yn ei gêm ryngwladol gyntaf yn ôl ym mis Mai 1990 ym Mharc Ninian, Caerdydd.
Roedd Cymru’n fuddugol o un gôl i ddim bryd hynny.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd a’r tocynnau yn costio £10 i oedolion a £5 i bobl ifanc a phobl hyn. Bydd 10% o’r holl elw yn mynd at elusennau, meddai’r Gymdeithas.
Mae’r Gymdeithas yn dweud y bydd yn gyfle i “ddathlu bywyd a llwyddiant unigolyn a gyfrannodd cymaint at bêl-droed yng Nghymru, a hynny fel chwaraewr a rheolwr.”
Cafwyd hyd i gorff Gary Speed yn ei gartref yn Sir Gaer ar 27 Tachwedd. Roedd yn 42 oed.