Ben a Cath Mullany (o wefan Ymddiriedolaeth Mullany)
Mae rhieni un o’r cwpwl o Gwm Tawe a gafodd eu llofruddio yn Antigua wedi croesawu’r ddedfryd oes a roddwyd i’w lladdwyr.

Dyma’r tro cyntaf i Ken a Marilyn Mullany ymateb i ddyfarniad y llys yr wythnos ddiwetha’, pan gafodd Kaniel Martin, 23, ac Avie Howell, 22, dair dedfryd oes.

Ar ôl gorfod aros yn hir am yr achos, doedd rhieni Ben Mullany ddim wedi disgwyl y ddedfryd mod gyflym, medden nhw.

Roedd y ddau ddyn lleol wedi eu cael yn euog o ladd Ben a Cath Mullany, o ardal Rhos, Pontardawe, a gwraig arall yn 2008.

Roedd y pâr priod ar noson ola’u mis mêl pan dorrodd y ddau ddyn i mewn i’w chalet a’u saethu yn eu pennau.

‘Annisgwyl’

“Fe ddaeth y ddedfryd yn annisgwyl,” meddai Marilyn Mullany. “Pan ddywedodd y barnwr ei fod am orfod ystyried materion yn llawn, doedden ni ddim yn disgwyl dedfryd am beth amser.

“R’yn ni’n falch ac yn llawn rhyddhad bod yr achos bellach ar ben. Mae’r cyfan ohonon ni’n ddiolchgar iawn i’r heddlu yn y Deyrnas Unedig ac i’r awdurdodau yn Antigua am gael cyfiawnder i Ben a Cath.

“Dyna’r unig beth oedd ar ôl y gallen ni ei wneud iddyn nhw.”