Protest Facebook y canwr Gai Toms
Erbyn hyn mae 500 o gerddorion a chyhoeddwyr cerddoriaeth wedi ymuno yn y streic sy’n digwydd am dridiau’r wythnos nesaf.

Ymhlith y rhai sy’ am atal yr hawl i Radio Cymru chwarae eu recordiau ar Ragfyr 19, 20 a 21 y mae Gruff Rhys, Sibrydion, Bryn Fôn, Gai Toms a’r Ods.

Maen nhw’n streicio dan faner y Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru, yn erbyn y “taliadau pitw” y maen nhw’n eu cael gan y BBC am chwarae eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.

Mae’r BBC wedi dadlau ar hyd yr adeg nad dadl rhwng y Gorfforaeth â’r cerddorion yw hon, ond un rhwng y corff breindaliadau PRS a’u haelodau, sef y cerddorion.

Ond ymddengys bod BBC yn teimlo’r pwysau o’r diwedd, ac nawr maen nhw wedi cyhoeddi eu bod am drafod y sefyllfa yn y flwyddyn newydd.

“Y mae’r BBC yn parhau i bryderu am y problemau sydd rhwng PRS a’r cerddorion Cymraeg sy’n aelodau o’r gymdeithas – ac yn poeni’n enwedig am yr effaith allai hyn ei gael ar ein cynulleidfaoedd yng Nghymru.

“Mater i’r PRS yn unig yw’r trefniadau dosbarthu arian breindaliadau. 

“Ond mae’r BBC yn fodlon hwyluso – a hynny cyn gynted â phosib – trafodaethau i edrych am atebion i’r problemau hyn, gan geisio canlyniad o fewn chwarter cynta’r flwyddyn newydd. Bydd y broses yma’n cychwyn gyda chyfarfod rhwng y prif gynrychiolwyr ddechrau fis Ionawr.”

Dyma fydd yr ail Streic Cerddorion yn dilyn streic undydd ar Fawrth 1. Roedd y Gynghrair yn “siomedig” ag ymateb penaethiaid BBC i’r streic honno.

Rhoddodd Deian ap Rhisiart rybudd clir ar ran aelodau’r Gynghrair i benaethiaid y BBC yng nghylchgrawn Golwg ar Ragfyr 8.

“Bydd ganddyn nhw ddim dewis ond trafod efo ni yn y pen draw,” meddai. “Os na fyddan nhw yn ymateb i ni yn y streic yma, mi fyddan ni bendant yn ystyried cyfarfod i drafod camau gweithredu. Rhywbeth parhaol.”