Mae disgwyl i gyngor Abertawe gymeradwyo cynigion i wella’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.

Mae’r cynigion yn ymwneud â gwella’r ddarpariaeth Gymraeg mewn amryw o sefyllfaoedd, gan gynnwys mewn ysgolion, wrth ofalu am blant, ac wrth hyrwyddo’r iaith tu allan i’r dosbarth.

Mae’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg yma gan Gyngor Abertawe yn amlinellu sut mae’r awdurdod yn bwriadu mynd ati i ateb targedau Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cynigion drafft eu rhoi gerbron cabinet y cyngor  y prynhawn yma, er mwyn cael eu cymeradwyo cyn eu cyflwyno’n derfynol i Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynigion wedi eu llunio er mwyn mynd i’r afael â phroblem llythrennedd ymhlith dysgwyr Cymraeg y sir. Maen nhw hefyd yn gobeithio rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr datblygu eu Cymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth, a chynyddu’r nifer sy’n gwneud cwrs TGAU llawn mewn Cymraeg, ac annog nifer uwch o fyfyrwyr ail-iaith i wneud Cymraeg hyd at Safon Uwch.

‘Mwy o lefydd mewn ysgolion Cymraeg’

Mae’r Cyngor yn dweud eu bod nhw’n awyddus i ymestyn ar y gwelliannau sydd eisoes wedi eu gwenud wrth ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.

Yn ôl y cynghorydd Mike Day, yr Aelod Cabinet dros Addysg, mae Cyngor Abertawe wedi ymroi i ateb gofynion addysg cyfrwng Cymraeg ac maen nhw wedi creu 735 o lefydd newydd i blant mewn ysgolion Cymraeg yn Abertawe ers 2006.

“Ond wrth i’r galw gynyddu mae’r Cyngor wedi gosod her i’w hun i ddatblygu ymhellach ar yr hyn fydd ar gael dros y blynyddoedd i ddod,” meddai.

“Bydd llawer iawn o waith i’w wneud, ac mae’r Cyngor yn bwriadu gweithio’n agos ag ysgolion, llywodraethwyr, disgyblion, a grwpiau eraill fel Rhieni Dros Addysg Gymraeg, er mwyn sicrhau bod ein hamcanion ni yn cael eu gwireddu.”

Yn ystod y  pum mlynedd ddiwethaf mae’r cyngor yn dweud bod mwy na 700 o lefydd ychwanegol wedi eu creu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, er mwyn ateb y galw cynyddol gan deuluoedd i weld eu plant yn cael eu dysgu yn yr iaith.

Mae disgwyl i’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg  gael ei roi o flaen Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd, a gallai’r cynigion ddod i rym erbyn 1 Ebrill, 2012.