Ben a Catherine Mullany
Mae dau ddyn wnaeth lofruddio cwpl o Gymru ar eu mis mel yn ôl yn y llys heddiw.

Mae disgwyl i’r ddau gael eu dedfrydu yn y flwyddyn newydd ar ôl oedi yn y broses gyfreithiol.

Fe gafodd Ben a Catherine Mullany, oedd newydd briodi, eu saethu yn eu pennau pan oedd y ddau yn Antigua yn 2008. Bedair wythnos ar ôl priodas y ddau, roedd rhieni’r cwpl yn eu hangladd.

Fe gafodd Kaniel Martin, 23, a Avie Howell, 21 eu dyfarnu’n euog o’u llofruddio ac o lofruddio perchennog siop dan amgylchiadau tebyg dros bedair mis yn ôl.

Ers hynny, mae’r cddau wedi dod yn ôl i uchel lys Antigua ar nifer o achlysuron – gyda theuluoedd y ddau yn gobeithio y byddant yn treulio gweddill eu hoes dan glo.

Ar ôl gorfodi’r cwpl, oedd yn weithiwyr ym maes ffisiotherapi a meddygaeth, i benlinio o flaen eu gwely, fe wnaeth y ddau ddyn saethu’r pâr priod yng nghefn eu pennau cyn dwyn ffôn symudol, camera digidol a swm fechan o arian.

Heddiw, mae disgwyl i fargyfreithwyr y llofruddwyr gyflwyno ple i liniaru’r ddedfryd yn dilyn cwblhau’r adroddiadau seiciatrig.

Ond mae’r barnwr, Richard Floyd wedi cyfaddef eisoes y bydd angen mwy o amser i ystyried “materion yn llawn”.

Mae’n bosibl y gall y ddau gael eu dedfrydu i’r gosb eithaf – er bod hynny yn beth prin yn Antigua.