Steven Nott
Cafodd dyn o Gwmbran ei fygwth â chyfraith petai’n sôn wrth unrhyw un ei fod wedi darganfod bod hi’n bosib hacio negeseuon ffonau symudol, clywodd Ymchwiliad Leveson heddiw.

Wrth roi tystiolaeth i’r ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw, dywedodd Steven Nott ei fod wedi ceisio rhybuddio’r cyhoedd ynglŷn â gwendidau diogelwch eu negeseuon ffôn yn ôl yn 1999, ond fod y papur newydd wedi ceisio’i dawelu.

Roedd Steven Nott yn gweithio fel gyrrwr yn dosbarthu nwyddau i gwmni yn ne Cymru ar y pryd, ac yn dibynnu ar negeseuon wedi eu gadael ar ei ffôn i wneud ei waith.

Ar ôl problemau wrth gael gafael ar ei negeseuon ffôn un diwrnod, fe ffoniodd Vodafone, a chafodd ei gynghori i ffonio rhif arbennig, yna deialu rhif ei ffôn, a gwasgu rhif cyffredinol – 333 – er mwyn gwrando ar y negeseuon.

Yn ôl Steven Nott, fe geisiodd dynnu sylw Vodafone at y perygl o’i gwneud hi mor rhwydd i bobol gael gafael ar negeseuon ffôn yn syth, ond fod y cwmni wedi mynnu nad oedd yn broblem.

“Ro’n i wastad yn teimlo fel petai nhw’n gwthio fy nghwynion i’r neilltu,” meddai Steven Nott yn ei dystiolaeth, “ni chafodd fy nghwynion eu trin ag unrhyw ddifrifoldeb gan Vodafone.”

Dywedodd Steven Nott, sy’n hanu o Bwllheli, ei fod wedyn wedi penderfynu mynd â’r stori at y cyfryngau, gan ddechrau gyda’r Daily Mirror, oedd dan olygyddiaeth Piers Morgan ar y pryd.

“Fe gysylltais i ag Oonagh Blackman yn y Daily Mirror ar 28 Awst 1999 ac esbonio’r broblem,” meddai.

“Ces fy sicrhau gan Ms Blackman y byddai’r stori yn cyrraedd y penawdau oherwydd y goblygiadau, a dywedodd y byddai’n edrych i mewn i’r mater.”

Ond mae’n dweud bod yr ymateb cadarnhaol a gafodd ar y dechrau wedi diflannu’n gyflym ar ôl i Oonagh Blackman ddweud ei bod wedi rhoi rhai o’i gohebwyr i weithio ar y stori, trwy ddeialu rhifau rhai ffigyrau cyhoeddus o gwmpas Llundain.

“Ar ôl 12 diwrnod dywedodd Ms Blackman nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb bellach. Dywedodd na fyddai’r stori yn debygol o gyrraedd y papur.

“Fe gyhuddais y Daily Mirror o gadw’r modd o hacio ffonau ar gyfer eu pwrpas eu hunain. Cefais fy mygwth ag achos llys gan Ms Blackman petawn i’n dweud wrth unrhyw un.”

Mynd o’r Mirror i’r Sun

Ar ôl ei fethiant gyda’r Mirror, aeth Steven Nott â’i stori at Paul Crosbie, ym mhapur newydd y Sun.

Cafodd ei wahodd i bencadlys News International yn Wapping er mwyn trafod y stori gyda Paul Crosbie, ac mae’n dweud iddo gael ymateb cadarnhaol i’r stori yno, gan drafod “y goblygiadau difrifol i’r Teulu Brenhinol, gwleidyddion, a phobol enwog.”

Dywedodd Paul Crosbie wrtho y byddai’r stori yn siwr o gael ei gyhoeddi o fewn 48 awr – ond ni chyhoeddwyd byth ’mo’r stori gan y Sun.

Fe gyhoeddwyd y stori yn y South Wales Argus yn y diwedd, ar 13 Hydref 1999, ond mae’n dweud na chafodd unrhyw ymateb gan wleidyddion, yr heddlu na’r Swyddfa Gartref i’w wybodaeth er iddo anfon llythyron atyn nhw.

Heddiw, roedd Steven Nott yn ymddangos o flaen Ymchwiliad Leveson i roi tystiolaeth ar hacio ffonau. Mae’r ymchwiliad wedi ei ddechrau yn sgil y darganfyddiad diweddar fod ymchwilwyr preifat i bapur newydd y News of the World, oedd yn chwaer bapur i’r Sun a hefyd yn berchen i News International, wedi bod yn hacio ffonau pobol er mwyn cael straeon.