Ieuan Wyn Jones
Mae Plaid Cymru wedi dweud heddiw nad penderfyniad hawdd fydd pleidleisio yn erbyn y gyllideb sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn y Siambr heddiw.

Dyma “un o’r ychydig achlysuron hynny lle rydan ni yn pleidleisio yn erbyn cyllideb,” meddai Ieuan Wyn Jones y bore ’ma.

Ac yn ôl arweinydd Plaid Cymru, fe fyddai’n anghyfrifol i’r blaid bleidleisio dros y gyllideb.

“Allwn ni ddim ei chefnogi hi oherwydd nad ydyn nhw wedi ymateb i her yr economi,” meddai Ieuan Wyn Jones yn ategu rhybudd cyson wrth drafod y gyllideb yn ddiweddar.

“Dydy hi ddim yn gwneud y pethau yr oedden ni yn gobeithio fyddai y gyllideb yn gwneud – achub swyddi, helpu y busnesau hynny sydd yn cyflogi cannoedd o filoedd o bobl trwy Gymru, sef ein busnesau bach canolig.”

Dywedodd Ieuan Wyn Jones y bore ’ma y byddai’n parhau i bwyso ar y Llywodraeth i newid eu cwrs cyllido, hyd yn oed tu hwnt i’r bleidlais, ond dywedodd ei fod yn pryderu am y diwylliant o bwyntio bys ar Lywodraeth San Steffan am wendidau yng Nghymru.

‘Angen blaenoriaethu’

Ond neges o gysur oedd gan y Dems Rhydd y bore ’ma, wrth iddyn nhw baratoi at bleidleisio o blaid y gyllideb, ar ôl dod i gytundeb â Llafur.

“Dwi’n meddwl fod ganddon ni gytundeb gwych ar y gyllideb i Gymru,” meddai Eluned Parrott AC, “ond yn amlwg bydd rhai blaenoriaethau y byddwn ni’n gorfod eu rhannu gyda chronfa gyfyngedig o arian.

“Mae ganddon ni £38.9 miliwn wedi ei ganolbwyntio ar yr economi – sef rhywbeth sy’n allweddol i ni ar y funud,” meddai.

Ond dywedodd ei bod yn hapus iawn â’r hyn sydd eisoes wedi ei gynnwys yn y gyllideb sydd i’w chyflwyno gan y Llywodraeth heddiw.

“Prif ofynion ein maniffesto oedd rhoi cyllid i gefnogi disgyblion, ac rydyn ni wedi llwyddo i sicrhau hynny, ac rydyn ni’n falch o hynny, a dydyn ni ddim ar fin ymddiheuro am hynny.”

Mae disgwyl i’r bleidlais ar y gyllideb derfynol gael ei gynnal yn Siambr y Cynulliad am 7pm heno, gyda’r Llywodraeth yn weddol hyderus o ennill y bleidlais nawr fod ganddyn nhw fwyafrif diogel yng nghefnogaeth y Dems Rhydd.