Pylu mae’r gobeithion o ddod o hyd i bump o forwyr o Rwsia sydd ar goll ar ôl i long nwyddau fynd i drafferthion oddi ar  arfordir Pen Llŷn fore dydd Sul.

Fe fydd gwylwyr y glannau yn parhau i chwilio am griw’r MV Swanland nes iddi nosi heno ond mae ail ddiwrnod o chwilio am y pum dyn wedi bod yn aflwyddiannus, meddai’r Asiantaeth Forwrol A Gwylwyr Y Glannau.

Fe suddodd y llong yn y Môr Iwerydd ar ôl cael ei daro gan “don enfawr” yn ystod oriau mân bore Sul.

Y pump sy’n dal ar goll yw’r Capten Yury Shmelev, 44, y prif beiriannydd Gennadiy Meshkov, 52, yr ail beiriannydd Mikhail Starchevoy, 60, y llongwr Sergey Kharchenko, 51, a’r cogydd Oleg Andriets, 49.

Cafodd y swyddog Roman Savin, 26, a’r llongwr Vitaly Karpenko, 48 eu hachub gan hofrennydd y llu awyr.

Cafwyd hyd i gorff y prif swyddog Leonid Safonov, 50, yn fuan wedyn.

Dywedodd rheolwr gwylwyr y glannau yng Nghaergybi Ray Carson: “Yn anffodus rydan ni wedi methu dod o hyd i’r morwyr sydd ar goll.

“Fe fyddwn ni yn chwilio am y tro olaf heddiw.”

Roedd y Tywysog William yn gyd-beilot ar yr hofrennydd oedd wedi achub y ddau longwr. Heddiw, roedd llysgennad Rwsia  wedi anfon llythyr at y tywysog yn diolch i’r timau chwilio ac achub am eu ymdrechion.

Fe aeth y Swanland i drafferthion tua 2am fore Sul rhyw 10 milltir oddiar arfordir Pen Llŷn. Mae gwylwyr y glannau yn credu y gallai’r gwyntoedd cryfion yn y Môr Iwerydd fod wedi achosi’r ddamwain.

Roedd y llong, sy’n cael ei reoli gan gwmni Torbulk Cyf yn Grimsby, yn cludo cerrig calch o Landdulas, ger Abergele i Cowes ar Ynys Wyth.

Dywedodd Andy Williamson, rheolwr gyfarwyddwr Torbulk heddiw eu bod nhw wedi cysylltu â theuluoedd y morwyr a’u bod yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda nhw ynglŷn â unrhyw ddatblygiadau.

Dywedodd bod y cwmni yn adnabod y criw yn dda a’u bod wedi cyflawni sawl cytundeb iddyn nhw.

“Rydyn ni yn meddwl am y teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai.

Dywedodd y cwmni bod y ddau longwr arall yn cael gofal mewn gwesty a’u bod wedi siarad gyda’u teuluoedd.

Mae ymchwiliad eisoes ar y gweill i ddarganfod pam fod y  llong wedi suddo.