Cafodd gyrrwr lori ei ladd mewn gwrthdrawiad difrifol ar draffordd yr M4 bore ma.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 6.51am bore ma rhwng cyffordd 30 a 32. Mae’n debyg bod lori yn cludo craen symudol wedi bod mewn gwrthdrawiad â lori.
Roedd gyrrwr y lori, oedd yn 43 oed ac yn dod o Swydd Lincoln, wedi marw yn y ddamwain.
Cafodd gyrrwr y lori arall ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dioddef o sioc.
Roedd dwy lôn y draffordd ar gau am bump awr bore ma tra bod yr heddlu’n ymchwilio i’r ddamwain. Mae’r draffordd bellach wedi ail-agor.
Mae Heddlu De Cymru yn dal i ymchwilio i’r ddamwain ac mae’r crwner wedi ei hysbysu.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad neu unrhywun a welodd y loriau yn cael eu gyrru cyn y ddamwain.
Dylai unhrywun sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.