Mae traffordd yr M4 wedi ail-agor yn dilyn gwrthdrawiad difrifol y bore ma rhwng cyffordd 30 a 32.

Mae’n debyg bod y gwrthdrawiad wedi bod rhwng dau gerbyd – gan gynnwys un lori oedd yn cludo craen – tua 6.50am.

Roedd tagfeydd traffig o hyd at 10 milltir ar y draffordd wrth i Heddlu De Cymru ymchwilio i’r gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu’n apelio ar dystion i gysylltu â nhw ar 101.