Mae un o’r dynion fu’n rhan o’r ymgais i achub glowyr pwll glo Gleision wedi disgrifio sut y cafodd y dynion eu llyncu gan “tsunami” o ddŵr.

Roedd Huw Jones yn adnabod un o’r pedwar dyn fu farw o ganlyniad i’r llifogydd yn y pwll glo ym mis Medi.

Dywedodd Huw Jones fod gobaith i ddechrau y byddai modd achub y dynion o’r pwll glo yng Nghwm Tawe.

Disgrifiodd sut y cerddodd ef a chriw o ddynion eraill drwy laid tew yn y gobaith o gyrraedd cilfach lle y gallai’r dynion fod wedi llochesu.

Cafodd Phillip Hill, 45, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, eu lladd yn y trychineb.

Roedd Huw Jones yn gyfaill i Gary Jenkins ac wedi gweithio gydag ef mewn pwll glo yng Nghaerfaddon dau ddegawd ynghynt.

Mynnodd nad oedd yr ymgyrch ar 15 Medi wedi ei rwystro gan ddiffyg nawdd neu ddiffyg adnoddau.

‘Dim gobaith’

“Dydw i ddim yn meddwl y gallai’r ymgais i achub y dynion fod wedi ei gynnal ynghynt neu yn ragor proffesiynol,” meddai.

“Llwyddon ni i glirio llawr iawn o ddŵr ac roedd pawb wedi cydweithio yn dda. Dim ond wrth glywed fod y person olaf wedi marw y sylweddolon ni ein bod ni wedi blino cymaint.”

Roedd y tîm achub wedi clywed sŵn tapio i ddechrau ac wedi gobeithio fod un o’r dynion yn fyw ac yn ceisio cysylltu â nhw, meddai.

Ond diflannodd y gobaith wrth ddod o hyd i gyrff y dynion, yn agos iawn at ardaloedd lle y bydden nhw wedi gallu goroesi o dan amgylchiadau gwahanol.

Yn y pen draw doedd yna ddim byd fydden nhw wedi gallu ei wneud pan ddaeth y dŵr i lawr y twnnel, meddai Huw Jones.

“Roedd y dŵr fel tsunami,” meddai. “Doedd ganddyn nhw ddim cyfle i ymateb o gwbl. Fe fyddwn nhw wedi eu sgubo i ffwrdd.”