Mae  Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i bump o ddynion mewn mygydau dorri i mewn i dŷ yn Sir y Fflint a bygwth dwy wraig gyda chyllyll cyn dwyn arian a gemau.

Fe ddigwyddodd y lladrad menw tŷ ym Maes Gwyn yn y Fflint nos Sul, 13 Tachwedd am 9pm.

Cafodd y gwragedd eu bygwth, ond ni chafodd y ddwy eu hanafu yn y digwyddiad.

Dywed yr heddlu bod y dynion yn gwisgo dillad tywyll a mygydau yn gorchuddio eu hwynebau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Devonport: “Rydym yn apelio am dystion a oedd yn ardal Maes Gwyn a all fod wedi gweld grŵp o ddynion ychydig cyn 9pm neu ar ôl hynny yn rhedeg ar hyd Ffordd Caer, yr A548.”

Dyw’r heddlu ddim yn sicr ar hyn o bryd a oedd y dynion wedi defnyddio cerbyd i ddianc o’r safle.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101  neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.