Mae’r heddlu’n apelio am dystion ar ôl i gerddwr oedrannus fod mewn gwrthdrawiad â char yng Nghastell-nedd ddydd Mawrth, 15 Tachwedd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am 11.39am wrth ymyl Heol Parc Gnoll tu allan i Kwik Fit Tyres.

Roedd car Vauxhall Corsa lliw arian yn teithio i gyfeiriad Llansawel pan fu mewn gwrthdrawiad â’r dyn sy’n parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Treforys.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhywun a welodd y car yn cael ei yrru cyn y ddamwain.

Y rhifau i’w ffonio yw Heddlu De Cymru ar 101 neu 01792 456999 est 88331 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.