Mae staff anacademaidd a chynorthwyol yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid cynnal streic ynglyn â chynlluniau i dorri eu pensiynau.

Roedd y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr (ATL) wedi cynnal pleidlais ymhlith eu haelodau rhwng 25 Hydref a 8 Tachwedd.

O’r 13,032 o staff anacademaidd a chynorthwyol yng Nghymru a Lloegr sy’n rhan o gynllun pensiwn llywodraeth leol, roedd 26% wedi pleidleisio, ac o’r rhain roedd 73% wedi pleidlesio o blaid cynnal streic a27% yn erbyn.

Er gwaetha cynnig newydd gan y Llywodraeth wythnos ddiwethaf, mae ATL yn dal i fod yn bryderus am y cynlluniau i dorri pensiynau.

Ddydd Sadwrn, roedd pwyllgor ATL wedi pleidleisio yn unfrydol i’w haelodau streicio ar 30 Tachwedd, sef diwrnod o weithredu diwydiannol gan Gyngres Undebau Llafur (TUC).

Mae canlyniad y bleidlais yn golygu y bydd aelodau ATL ar draws y DU yn ymuno ag aelodau o 13 o undebau addysg ac undebau eraill sy’n cynnal streic ar 30 Tachwedd.

Mae’r undebau’n dadlau bod cynlluniau’r Llywodraeth yn golygu y byddai’n rhaid i athrawon a darlithwyr dalu mwy am eu pensiwn, gweithio’n hirach a chael llai o bensiwr ar ôl ymddeol.