Rôl Duw fel  ‘creawdwr’  fydd y ffocws  mewn seminar wledig yr wythnos nesaf.

Fe fydd diwinyddiaeth y creu a pherthynas hynny gyda materion gwledig ac amgylcheddol yn cael ei drafod yn y digwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Y seminar, sy’n cael ei gadeirio gan John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, yw’r ddiweddaraf yng nghyfres Canolbwynt Gwledig yr Eglwys yng Nghymru, rhaglen o ddigwyddiadau misol sy’n cael eu cynnal mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS).

Fe fydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan y Parch Canon Robin Morrison, cyn gynghorydd yr Eglwys a Chymdeithas, fydd yn edrych o’r newydd ar  y gred Gristnogol yn Nuw fel creawdwr a sut mae gwyddoniaeth wedi newid a herio’r gred honno.

‘Byd ôl-Ddarwin’

“Rwyf eisiau cymryd credo Gristnogol ganolog iawn a dangos sut mae’n gweithio mewn byd ôl-Copernicus ac ôl-Darwin. Bydd hefyd weithdy ymarferol i ymchwilio’r hyn yr ydym mewn gwirionedd eisiau ei gyfathrebu drwy ein gwasanaethau Cristnogol i bobl o bob oedran gyda meddylfryd gwyddonol.

“Bydd yn gyfle i ystyried syniadau mawr sy’n wirioneddol  bwysig i’n ffydd. Mae’n amser cyffrous i fod yn Gristion ac i ymwneud gyda’r cwestiynau mawr am y Bang Mawr a’r Geni Mawr,” meddai’r Parch Canon Robin Morrison.

Fe fydd y seminar yn cael ei gynnal ar 18 Tachwedd, rhwng 10.30-4pm ym maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.