Mae dau frawd sy’n byw yng Nghaerdydd wedi’u cadw yn y ddalfa ar ôl cael eu cyhuddo o helpu eu brawd hŷn drwy waredu corff ar ôl iddo ladd dynes.
Aeth Mohammed Yasin Salangi, 32, a Mohammed Ramin Salangy, 29, gerbron Llys y Goron Caerwrangon ddoe (dydd Llun, Mai 18), wedi’u cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Aeth Zobaidah Salangy, 28, ar goll ar Fawrth 29, ar ôl dweud wrth ei theulu ei bod hi’n mynd allan i redeg a does neb wedi ei gweld hi ers hynny.
Mae Nezam Salangy, 42, eisoes wedi bod gerbron llys i wynebu’r cyhuddiad ei fod e wedi ei lladd hi.
Yr achos
Aeth y ddau frawd gerbron llys dros Skype o’r carchar yn Birmingham, ac fe wnaethon nhw bledio’n ddieuog.
Maen nhw wedi’u cadw yn y ddalfa tan bod yr achos yn dechrau ym mis Medi.
Byddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron ar Fawrth 16 y flwyddyn nesaf.