Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl damwain ddifrifol ar draffordd yr M4 nos Sul.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 6.55pm neithiwr rhwng cyffordd 37 ger Y Pîl a chyffordd 36 Sarn ger Penybont ar Ogwr.

Roedd dau gar wedi taro yn erbyn eu gilydd – Suzuki Swift gwyrdd a Ford Focus C-Max du. Cafodd pedwar o bobl eu cludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhenybont ar Ogwr ac mae nhw wedi eu cadw yno dros nos.

Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhywun a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw ar Caerdydd 02920 571600.