Mae dros 80,000 wedi cynnig am 18,000 o swyddi dros gyfnod y Nadolig efo’r Post Brenhinol yn ôl ffigyrau gyhoeddwyd heddiw. Mae hyn 10,000 yn fwy na’r nifer ymgeisiodd am waith cyffelyb llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wrth eu boddau efo’r ymateb ond eu bod yn parhau i chwilio am weithwyr mewn rhai dinasoedd, gan gynnwys Abertawe.

Mae’r cwmni yn chwilio am 1,000 o bobl i weithio dros y Nadolig trwy Gymru benbaladr.

“Rydym yn edrych ymlaen i dderbyn ceisiadau oddi wrth bobl sydd eisiau ennill arian ychwanegol a’n helpu i ddosbarthu tua 2 biliwn o eitemau dros y Nadolig,” meddai Rheolwr Gweithrediadau a Moderneiddio y cwmni, Mark Higginson.

Bydd y swyddi ar gael o ganol mis Tachwedd tan yn gynnar yn y flwyddyn newydd.