Heddiw mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio y gallai’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r polisi amaeth Ewropeaidd chwalu’r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Mae’r undeb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o effeithiau newid system daliadau’r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC) ar unwaith, er mwyn sicrhau nad yw ardaloedd sy’n cynhyrchu llaeth yn cael eu niweidio gan y newidiadau sydd ar droed.

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Llaeth yr undeb, Dei Davies, gallai’r diwydiant llaeth ddioddef ergyd ddifrifol os yw’r cynlluniau i gyflwyno un taliad sengl cyffredin i ffermwyr ar draws Ewrop yn dod i rym.

Mae’r undeb nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad manwl o effaith nifer o fodelau taliadau sengl i ffermwyr llaeth ar draws Cymru.

Yn ôl Dei Davies, sy’n ffermio yn Sir y Fflint, gallai diffyg paratoi digonol ar gyfer newidiadau i’r CAP ar ôl 2013 olygu chwalfa ariannol i rai o ardaloedd llaeth mwyaf cynhyrchiol Cymru.

“Gallai hyn achosi difrod difrifol os nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu nawr i ymgymryd ag asesiad yn edrych ar amrwyiaeth o fodeli taliad sengl, a’u heffaith ar ffermydd llaeth mewn ardaloedd o Gymru,” meddai.

Yn ôl y cynigion diweddaraf i ddiwygio’r PAC, fe fyddai pob fferm yng Nghymru yn derbyn yr un budd-dâl am bob hectar o dir sy’n cael ei ffermio ganddyn nhw – ac yn cael gwared ar yr ystyriaeth bresennol sy’n talu mwy am bob hectar i ffermwyr mewn ‘Ardaloedd Llai Ffafriol’ yn ôl safonau Ewropeaidd.

Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod “y cyfanswm o daliadau i ffermydd tir isel a thir uchel ar hyn o bryd yn debyg iawn, ond mae ffermydd ar diroedd isel, ar gyfartaledd, hanner maint y ffermydd ar dir uchel”.

Yn ôl yr undeb, gallai Llywodraeth Cymru wahaniaethu lefelau’r taliadau sengl cyffredin yn ôl ardaloedd ar draws Cymru os fydden nhw’n dymuno – ond byddai hynny’n golygu bod yn rhaid i’r Llywodraeth wneud ymchwil manwl er mwyn gwahaniaethu rhwng yr ardaloedd yn gyntaf.

“Gallai diffyg diffiniad addas o ‘ardal’ olygu bod etholaethau yng Nghymru yn colli degau o filoedd o bunnoedd, gyda chanlyniadau niweidiol iawn i gymunedau o ran cynhyrchu bwyd a gwaith yn lleol,” meddai Dei Davies.

Dan y cynnig presennol, mae gan Lywodraeth Cymru 21 mis cyn bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno’u bwriad o ran y taliadau ger bron Ewrop.

Mae Golwg360 yn dal i ddisgwyl ymateb ar y mater gan Lywodraeth Cymru.

Catrin Haf Jones