Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cau ei holl gartrefi gofal i ymwelwyr yn sgil y coronafeirws.
Y rhai sydd dan sylw yw Bryntirion yn Nhregaron, Tregerddan yn Bow Street, Min y Môr yn Aberaeron, Hafan Deg yn Llambed a’r Hafod yn Aberteifi.
Dywed y Cyngor eu bod nhw wedi gwneud trefniadau i sicrhau bod teuluoedd yn gallu siarad â’u hanwyliaid, ac maen nhw’n annog cartrefi gofal preifat i ddilyn eu hesiampl.
Trefniadau amgen
“Ni chymerwyd y penderfyniad hwn yn ysgafn,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.
“Fodd bynnag, mae iechyd, diogelwch a lles ein preswylwyr, staff a’r cyhoedd yn hollbwysig ar yr adeg anodd hon.
“Gall perthnasau gysylltu â’r cartref dros y ffôn ac mae trefniadau yn eu lle ar gyfer fideogynadledda/Skype o wythnos nesaf ymlaen er mwyn galluogi teuluoedd i siarad â’r preswylwyr.
“Bydd teuluoedd yn cael gwybod am y trefniadau hyn yn y dyddiau nesaf.
“Os ydych yn dymuno rhoi anrhegion i’r cartref ar gyfer ‘Sul y mamau’, ffoniwch y Rheolwr Cartref Gofal i drefnu hyn er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r protocolau darparu rheoledig sydd eisoes yn eu lle.”