Neuadd Casnewydd
Casnewydd yw’r lle rhataf i rentu ystafell, yn ôl arolwg newydd.
Pool yn Dorset, yn hytrach na Llundain, yw’r man drutaf i rentu, o’i gymharu â chyflogau cyfartalog yr ardal.
Yn ôl gwefan Easyroommate.co.uk mae ystafell ym Mhrydain yn costio £365 ar gyfartaledd i’w rhentu bob mis – 21.9% o’r incwm cyfartalog, sef £1,665.
Mae rhentu ystafell yng Nghasnewydd yn costio £280 ar gyfartaledd – £85 yn rhatach na’r cyfartaledd ar draws Prydain, ac yn costio 18% o’r cyflog cyfartalog.
Ond mae rhywun sy’n rhentu ystafell yn Poole yn wynebu talu £398 bob mis, sef 26.8% o’u cyflogau.
Mae trigolion Llundain yn talu £520 ar gyfartaledd, neu 26.2% o’u cyflogau misol.
“Mae’r adferiad economaidd yn araf ar ei orau, ac felly mae’n debygol y bydd costau rhentu’n cynyddu’n gynt na chyflogau,” meddai Jonathan Moore o Easyroommate.co.uk.
“Mae pobol yn ei chael hi’n anodd cael morgeisi ac felly mae yna ragor o alw am ystafelloedd i’w rhentu.”
Yn ôl yr arolwg sy’n seiliedig ar 15,000 o hysbysebion am ystafelloedd ar y wefan, mae pris rhentu ystafell wedi cynyddu 5% bob blwyddyn.
Mae hynny’n cymharu â chynnydd 2.8% mewn gwerth cyflogau yn ystod yr un cyfnod.
Y trefi mwyaf fforddiadwy
1. Casnewydd £1,539 £280 18.2%
2. Hull £1,373 £255 18.6%
3. Huddersfield £1,600 £300 18.7%
4. Leeds £1,586 £301 19.0%
5. Bolton £1,465 £280 19.1%
6. Sheffield £1,599 £311 19.4%
7. Dundee £1,500 £300 20.0%
8. Coventry £1,518 £305 20.1%
9. Liverpool £1,598 £325 20.3%
10. York £1,617 £330 20.4%
Y trefi lleiaf fforddiadwy
1. Poole £1,482 £398 26.8%
2. London £1,985 £520 26.2%
3. Norwich £1,554 £395 25.4%
4. Blackpool £1,300 £325 25.0%
5. Gloucester £1,449 £360 24.9%
6. West Bromwich £1,428 £350 24.5%
7. Oxford £1,710 £419 24.5%
8. Brighton £1,737 £420 24.2%
9. Slough £1,671 £400 23.9%
10. Bournemouth £1,552 £370 23.8%
Cyfartaledd – £1,665 £365 21.9%