Mae 34 yn rhagor o achosion o Coronafeirws yng Nghymru, sy’n golygu bod cyfanswm o 94 o achosion wedi’u cadarnhau erbyn hyn.

Ond dydy’r ffigwr ddim yn fanwl gywir oherwydd y ffordd mae profion yn cael eu cynnal, a’r ffaith fod mesurau rheoli’r haint wedi mynd i gyfnod “oedi”.

Mae dau o’r achosion newydd ym Mlaenau Gwent, pedwar yng Nghaerffili, tri yn Sir Gaerfyrddin, un yng Ngheredigion, pedwar yn Abertawe, tri yng Nghaerdydd, un yn Sir Fynwy, tri yng Nghasnewydd, dau yn Rhondda Cynon Tâf, dau yn Nhorfaen ac un ym Mro Morgannwg.

Dydy hi ddim yn glir ym mle mae wyth achos arall, ond mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn dweud fod Llywodraeth Cymru’n “gweithio’n galed i baratoi ar gyfer yr hyn sydd i ddod”.

Y cyngor diweddaraf

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ddylai pobol ddim ffonio 111 na mynd at y meddyg os ydyn nhw’n credu bod ganddyn nhw symptomau Coronafeirws.

Dim ond os nad yw’r symptomau’n diflannu neu fod eu cyflwr yn gwaethygu y dylid ffonio 111.

Yn hytrach, dylai pobol ynysu eu hunain am saith diwrnod os oes ganddyn nhw dymheredd uchel neu os ydyn nhw’n peswch yn barhaus.

Dim ond mewn ysbytai mae profion yn cael eu cynnal erbyn hyn, yn unol â chanllawiau Prydeinig.