Wrth ymateb i’r coronafeirws fydd Llywodraeth Cymru ddim yn cymryd unrhyw gamau mawr heb fod yna “sail go iawn” i wneud hynny.

Dyna ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wrth annerch newyddiadurwyr bnawn Iau (Mawrth 12).

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw am ohirio’r gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a’r Alban yng Nghaerdydd y penwythnos hwn oherwydd bygythiad yr haint.

Ac yn y sesiwn mi ymatebodd y gweinidog i’r alwad honno.

“Dw i wedi gweld hynny, ac mae’n glir iawn, ac mae’n bwysig iawn bod gweinidogion yn gwneud penderfyniadau sydd yn cael ei lywio gan y dystiolaeth gorau posib a chyngor gwyddonol,” meddai.

“A dweud y gwir, yr her â digwyddiadau mawr yw bod y wyddoniaeth ddim yn dweud wrthym bod canslo wir yn gwneud gwahaniaeth wrth oedi anterth yr achosion nac wrth achub bywydau.

“Does dim cyngor iechyd cyhoeddus ar gael i ni – fel gweinidogion sy’n gwneud penderfyniadau – sy’n dweud mai canslo’r digwyddiadau mawr yna yw’r peth iawn i ni ei wneud tros y cyhoedd.”

Yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban yn argymell y dylai digwyddiadau mawr – lle fydd dros 500 o bobol yn ymgynnull – gael eu canslo o wythnos nesaf ymlaen.

Lleihau pwysau ar wasanaethau brys yw pwrpas y cam, nid o reidrwydd lleihau lledaeniad yr haint, ac mae Vaughan Gething wedi awgrymu ei fod yn cydymdeimlo â’r fath gam.

“Rydym yn ystyried hynny, ac efallai y gwnawn ni’r un penderfyniad hefyd yr wythnos nesaf,” meddai yn y gynhadledd i’r wasg.

Cyngor i hunan-ynysu

Roedd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, a dywedodd yntau y byddai cyngor llymach yn dod i rym yfory.

“O fory ymlaen, os ydych yn cael eich taro’n sâl y cyngor iechyd cyhoeddus gorau (fel eich bod ddim yn trosglwyddo’r haint i bobol eraill) yw ynysu’ch hun am saith diwrnod,” meddai.

Cafodd chwech o achosion newydd eu cadarnhau yng Nghymru heddiw, gan ddod â’r cyfanswm i 25.