Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau rhoi’r hawl i Gymru gael diwrnod o wyliau cenedlaethol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Maen nhw’n galw Lywodraeth Geidwadol Prydain i roi’r hawl i Lywodraeth Lafur Cymru ddeddfu er mwyn cael diwrnod o wyliau ar Fawrth 1 yng Nghymru.

Mae’r Alban ac Iwerddon eisoes yn cael diwrnod i ffwrdd o’r gwaith a’r ysgol i ddathlu eu nawddsaint, ac mae Wendy Chamberlain, llefarydd y blaid ar ran y gwledydd Celtaidd, eisiau’r un hawl i Gymru.

Dathlu diwylliant a hanes Cymru

Un arall sy’n cefnogi’r ymgyrch yw Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Dydd Gŵyl Dewi yw’r diwrnod pan ydyn ni oll yn dod ynghyd i ddathlu’r tapestri enfawr o ddiwylliant Cymreig ac yn cofio ein hanes gyda’n gilydd,” meddai.

“Mae hi ond yn iawn, felly, fod Dydd Gŵyl Dewi, diwrnod cenedlaethol Cymru, yn dod yn ŵyl gyhoeddus fel Dydd Sant Andreas yn yr Alban a Dydd San Padrig yn Iwerddon.

“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r grym i’r Senedd ddeddfu er mwyn i hyn ddigwydd, fel y gallwn ni sicrhau bod gan bawb y cyfle i ddathlu pwy ydyn ni, a’n diwylliant unigryw sy’n ein huno ni.”