Mae grŵp o gynhyrchwyr bwyd yn Sir Benfro wedi penderfynu mynd ben-ben â rhai archfarchnadoedd mwyaf Prydain yr hydref hwn.
Am bythefnos ym mis Hydref, fe fydd ‘Cynnyrch Sir Benfro Direct’ yn cynnig gostyngiad o 25% ar bopeth.
“Mae’r archfarchnadoedd mawr yn honni bod ganddyn nhw’r prisiau isaf o hyd, ond r’yn ni’n gobeithio y bydd pobol yn darganfod fod yna ffordd arall i siopa sy’n rhoi hyd yn oed mwy o werth am eu harian,” meddai’r rheolwr cyffredinol, James Ross.
Mae eu gwefan – a enillodd wobr arian yng Ngwobrau’r Gwir Flas – yn gwerthu cynnyrch gan fwy na 70 o gynhyrchwyr bwyd ar draws Gorllewin Cymru.
Cefnogi busnes lleol
Mae’r cynnyrch yn cynnwys bwyd a diodydd lleol – o laeth a bara a llysiau, i gacennau, cawsiau a phastai.
“Rydyn ni eisiau pobol i fynd ar y wefan a rhoi tro arno, a dod i’r arfer o siopa ar-lein,” meddai James Ross.
“Mae’n ffordd wych o gefnogi busnes lleol yn Sir Benfro, ac mae’n llawer rhatach na gyrru i’r archfarchnad i nifer o gwsmeriaid.”
Yn ôl Cadeirydd y fenter, Andy Cook, maen nhw’n gobeithio y bydd rhoi gostyngiad o 25% ar bopeth yn newid rhagdybiaeth pobol fod cynnyrch lleol yn ddrud, a bod siopa ar-lein yn waith caled.
“Nid gwaith hyrwyddo cymhleth yw hyn – mae ein hymgyrch ni yn syml, mae’n caniatau i chi ddewis pa bynnag beth y’ch chi ei angen, a faint bynnag ohono sydd ei angen arnoch.”