Mae dyn a gafodd ei daro gan gar wrth redeg yn ardal Penfro ar Ddydd Nadolig wedi marw.

Cafodd Jonathan Townsend, cyn-filwr 51 oed, yn rhedeg ym Millpond Bridge pan gafodd ei daro gan Skoda Fabia lliw golau.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol i’w ben.

“Treuliodd Jonathan 35 o flynyddoedd yn brwydro’n ddewr dros ei wlad ar draws y byd yn y gwasanaethau milwrol,” meddai ei deulu mewn teyrnged iddo.

“Yn ddyn teuluol ymroddedig, bu farw Jonathan yn dawel ar ddydd Sadwrn, 28 Rhagfyr 2019 am 5.45yb.

“Yn ôl ei ddymuniadau, cafodd ei organau eu rhoi i chwe derbyniwr cyfatebol.

“Hoffem ddiolch i’r timau ambiwlans ac ambiwlans awyr anhygoel a weithiodd ar Jonathan yn y fan a’r lle, a’r staff yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, y nyrs nad oedd ar ddyletswydd a’i brawd oedd wedi gofalu am Jonathan yn dilyn y ddamwain, y cwpl caredig oedd wedi ein gadael ni i mewn i’w cartref ac i Lisa oedd wedi eistedd gyda ni wrth i ni aros.

“Yn olaf, diolch am y cannoedd o negeseuon sydd wedi’u hanfon dros y tridiau diwethaf – maen nhw wedi bod yn gysur gwirioneddol, diolch.”