Mae Heddlu’r De wedi bod yn anfon swyddogion cefnogi cymunedol i Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Morfa yn Sblot bob dydd yr wythnos hon, ar ôl i rieni gwffio ar y maes chwarae.

Roedd dau deulu yn dyrnu ei gilydd ac roedd staff yn cael eu bygwth a’u manhandlo.

Mae’r athrawes Siân Wyn Thomas wedi sgwennu at rieni, gan rybuddio na fydd ymddygiad gwael yn cael ei dderbyn.

Yn y llythyr at rieni ddydd Llun yma fe sgwennodd Mrs Thomas: “Rydan ni wedi gweld achosion amhleserus yn ymwneud â iaith aflan ac ymddygiad bygythiol gan leiafrif bach o rieni a gofalwyr yn yr ysgol yn ddiweddar.

“Ddydd Gwener diwetha’ oedd y gwaethaf hyd yma, gyda dau deulu yn brwydro ar iard yr ysgol.”

Roedd yn dweud bod hyn wedi arwain at wahardd rhieni rhag dod i’r iard, ac yn dilyn y gwaharddiad cafodd staff eu “bygwth a’u manhandlo’n gorfforol” gan rai rhieni.

“Oherwydd hyn byddwn yn parhau i atal rhieni rhag dod i’r iard nes bod ymddygiad y lleiafrif bach o rieni yn gwella’n barhaol,” ychwanegodd.

Yn ôl Cyngor Caerdydd fe ddylai rhieni adael eu plant wrth giatiau’r ysgol, sy’n addysgu 400 o blant sy’ rhwng tair ac 11 oed.