Ucheldiroedd yr Alban
Tair blynedd ers cychwyn darlledu rhaglenni Gaeleg, mae BBC Alba yn brolio bod ganddi’r un nifer o wylwr ag S4C.

Yn ôl BBC Alba maen nhw wedi llwyddo i wneud hyn trwy wario tua’r un faint â 10% o gyllideb S4C.

Mae’n cael ei adrodd ar newsnetscotland.com yr wythnos fod BBC Alba ar fin cyhoeddi bod cynnydd wedi bod yn y nifer yn gwylio – oherwydd eu bod yn dangos gemau pêl-droed Uwch Gynghrair yr Alban, rygbi, cerddoriaeth draddodiadol a dadansoddiad o faterion Ewropeaidd, gan ddenu nifer o wylwyr sydd ddim yn siarad Gaeleg yr Alban.

Cyn cael ei gynnig am ddim ar Freeview, roedd BBC Alba yn denu tua 220,000 tra ar loeren yn unig, gan gynnwys 40,000 oedd yn gwylio’n ddyddiol am tua chwarter awr.

Ond nawr ei fod ar Freeview mae’r ffigyrau gwylio wedi mwy na dyblu a’r sianel yn denu tua 500,000, yn ôl newsnetscotland.

Yn ôl y wefan mae llwyddo i ddenu’r un nifer o wylwyr ag S4C yn garreg filltir bwysig i’r iaith Aeleg yn yr Alban “o ystyried bod yna 611,000 o Gymry sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru a dim ond 58,652 o siaradwyr Gaeleg yn yr Alban”.

“Mae’n galondid nad ydy’r ffigyrau hyn yn cyfrif Albanwyr alltud sy’n gwylio ar loeren neu ryngrwyd yng ngweddill Prydain a’r byd, nad ychwaith yn cyfrif y nifer sy’n gwylio rhaglenni plant yn yr Iaith Aeleg, na’r rhai sy’n gwylio ar y BBC iPlayer wnaeth ddenu miliwn o hits y llynedd,” meddai newsnetscotland.

80% o siaradwyr yr Aeleg yn gwylio

Mae wyth o bob deg siaradwr Gaeleg yn gwylio BBC Alba yn yr Alban, a thua 10% o boblogaeth y wlad yn gwylio’r sianel, meddai’r adroddiad ar y wefan.

“Mae BBC Alba yn cyfrannu at gynnydd ym mhoblogrwydd diwylliant Gaeleg…mae gŵyl flynyddol cerddoriaeth a diwylliant Gaeleg yn dweud bod mwy o bobol ifanc yn cystadlu nag erioed o’r blaen, yn rhannol oherwydd cyhoeddusrwydd BBC Alba. Yn syml, mae diwylliant Gaeleg ar ei ennill oherwydd y cynnydd yn y nifer sy’n gwylio BBC Alba,” meddai newsnetscotland.