Rebecca Aylward
Mae mam merch ysgol gafodd ei llofruddio gan ei chyn-gariad yn dwyn achos sifil yn erbyn y rheiny mae hi’n honi allai fod wedi atal y llofruddiaeth.

Yn ôl Sonia Oatley, mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r fei i lofruddiaeth ei merch Rebecca Aylward, 15, ers i’w chyn-gariad gael ei garcharu am oes.

Cafwyd Joshua Davies, 16, yn euog o ladd Rebecca drwy dorri ei phenglog gyda charreg yr un maint â phel rygbi.

Cafodd ei garcharu am oes yn Llys y Goron Abertawe ym mis Medi gydag argymhelliad ei fod yn treulio o leia 14 blynedd dan glo.

Roedd Davies wedi honi y byddai’n llofruddio Rebecca petae’n cael brecwast am ddim.

Cafodd y ferch ysgol, o Faesteg, Penybont-ar-Ogwr ei lladd fis Hydref diwethaf ar ôl cael ei denu i goedwig yn Abercynffig gan Davies.

Roedd y ddau wedi bod mewn perthynas a ddaeth i ben tua blwyddyn cyn y llofruddiaeth.

Roedd Davies wedi sôn am lofruddio Rebecca sawl gwaith wrth ei ffrindiau ac mewn negeseuon ar safle rhyngweithio cymdeithasol.

Mae Sonia Oatley yn honi bod y negeseuon yma wedi dod i’r fei ers yr achos yn yr haf ac nad oedd hi wedi bod yn ymwybodol ohonyn nhw cyn hyn.

Yn ôl Sonia Oatley mae’r dystiolaeth yn dangos bod grŵp o bobol wedi bod yn ymwybodol o’r bygythiad i Rebecca ond eu bod nhw wedi methu â atal ei llofruddiaeth.

Dywedodd Sonia Oatley mewn cynhadledd i’r wasg ym Mhenybont-ar-Ogwr ei bod hi wedi siarad gyda’r heddlu am y mater ond nad oeddan nhw’n  bwriadu cymryd unrhyw gamau pellach.

Ond dywedodd ei bod hi’n bwriadu cynnal erlyniad sifil, a bod ei chyfreithiwr wedi gweld cyfres o negeseuon yn ymwneud â’r achos gan yr heddlu.

Roedd yr heddlu’n ymwybodol o’r negeseuon ond nid oeddan nhw wedi cael eu defnyddio fel rhan o’r dystiolaeth yn achos Davies.

Dywedodd Sonia Oatley y gallai marwolaeth Rebecca fod wedi ei atal ac mae hi am weld y rhai hynny a allai fod wedi gwneud hynny yn cael eu herlyn.

ydref