Marc Jones
Mae Cynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam wedi dweud wrth Golwg360 y gallai “argyfwng S4C” olygu cyfle i’r Sianel “wneud newidiadau radical”.
Mae’n fis ers i S4C gynnal cyfweliadau ar gyfer llenwi swydd y Prif Weithredwr, ac er ei fod wedi adrodd yn helaeth mai Ian ‘Tish’ Jones yw’r dyn newydd, nid oes unrhyw gyhoeddiad wedi bod.
Ond mae Marc Jones y Blaid Cymru yn gweld cyfle newydd pan ddaw’r pennaeth newydd i’w swydd.
“Y peth pwysicaf ydi gobaith y bydd y Prif Weithredwr newydd yn arwain at gyfeiriad newydd,” i’r Sianel yn ôl y Cynghorydd Marc Jones, a fu’n annerch cynhadledd ddiweddar Cymdeithas yr Iaith ar fater darlledu yng Nghymru.
“Mae’n argyfwng ar S4C. Ond, mae argyfwng fel hyn yn gallu golygu cyfle hefyd i wneud newidiadau radical mewn cyfeiriad – a dyna faswn i’n licio’i weld yn digwydd.
“Yn syml iawn, mae S4C wedi colli cysylltiad efo’r cymunedau wnaeth ei fwydo mewn ffordd. Maen nhw wedi mynd yn rhy hunanbwysig, yn rhy gorfforaethol”.
S4C yn dieithrio
Cyn troi’n wleidydd fe fuodd Marc Jones yn gweithio fel cynhyrchydd teledu ar raglenni S4C gan gynnwys Taro Naw a Y Byd ar Bedwar, ac mae’n credu bod gormod o gwmnïau mawr yn darparu rhaglenni i S4C.
“Dydyn ni ddim yn gweld yr un math o gysylltiad oedd yna pan oedd yna ddwsinau o gwmnïau bach yn bwydo i mewn i’r sianel,” meddai.
“Mae yna or-ganoli wedi bod a falle bod eisiau ail-gysylltu hefo cymunedau fel bod pobl Cymru yn teimlo bod nhw pia’r sianel eto.
“Yn y pen draw, sianel gafodd ei chreu mewn protest a thon o ymdeimlad cyhoeddus oedd hi. Y peryg ydi, os nad ydyn nhw’n ail gysylltu â’r bobl – fysa sianel Cymru’n cau lawr fory, fysa neb yn poeni rhyw lawer achos nad ydyn nhw’n delifro,” meddai.
Prif Weithredwr
Mae’n fis ers cyfweliadau Prif Weithredwr y Sianel bellach.
Eisoes mae wedi’i adrodd yn helaeth yn y Wasg ac ar y cyfryngau mae Ian Jones, rheolwr gyfarwyddwr A&E Television Networks yn Efrog Newydd, sydd wedi cael ei benodi yn Brif Weithredwr newydd S4C.Ond nid yw’r Sianel wedi cyhoeddi enw’r pennaeth newydd ar gyfer y swydd fu’n wag am flwyddyn ers diswyddo Iona Jones.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360 21 Fedi fod yr Awdurdod wedi dod i benderfyniad ynglŷn â swydd y Prif Weithredwr ddydd Gwener ar ôl y cyfweliadau – ond oherwydd ‘materion cytundebol’ mewn perthynas â chyflogwr presennol yr unigolyn roedd rhaid oedi cyn gwneud datganiad. Nid yw S4C wedi cadarnhau’r sibrydion nac wedi rhyddhau datganiad ers hynny.
Eisoes, mae’r Arglwydd Dafydd Wigley wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “ofni” bod y ffordd mae’r stori “wedi dod allan” am benodiad Prif Weithredwr S4C yn mynd i “danseilio’r penodiad”.