Bydd streic ar drenau Virgin yn y gorllewin ddiwedd Hydref yn effeithio ar y gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru. Mae trenau Virgin yn teithio yn ddyddiol o orsaf Euston i Gaergybi ar hyd rheilffordd y gogledd gan gysylltu Llundain yn uniongyrchol efo’r Iwerddon
Mae glanhawyr sy’n gweithio i Carlisle Cleaning and Support Services ac sydd hefyd yn aelodau o Undeb y Rheilffordd, Morwrol a Thrafinidaeth (RMT), yn bwriadu mynd ar streic ar 28 Hydref ynglyn â thâl a chydnabyddiaeth i’r undeb.
Fe wnaeth 94% o’r 300 sy’n gweithio i’r cwmni ac sydd hefyd yn aelodau o’r undeb bleidleisio o blaid mynd ar streic. Fe fyddan nhw hefyd yn gwrthod gwagio tanciau carthffosiaeth ac ail-lenwi tanciau dwr ffres am 48 awr o 6 o’r gloch yr hwyr ar y 4 Tachwedd.
Mae’r undeb yn honni bod y glanhawyr wedi cael cynnig 1% o godiad cyflog a hwnnw’n werth 6c yr awr yn unig, a bod gan y cwmni gynlluniau ar y gweill hefyd i roi’r gorau i gydnabod yr RMT.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Bob Crowe, bod y glanhawyr wedi ei gwneud yn berffaith glir nad ydyn nhw’n fodlon derbyn cynnig sydd yn ostynigad cyflog go iawn o ystyried chwyddiant, a’u bod hefyd yn gwrthod unrhyw ymdrech i beidio cydnabod yr undeb.