Mae’r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn o law a gwyntoedd cryfion a allai achosi trafferthion – tan hanner nos heno.
Dywedir y bydd hyrddiadau rhai o’r gwyntoedd cyn gyflymed a 60 milltir yr awr.
Disgwylir y bydd y gwyntoedd cryfaf ar hyd ardaloedd gorllewinol – er y byddan nhw hefyd yn gryf iawn yn y dwyrain gan gyrredd cyflymder o 40mya.
Rhagwelir tonnau mawr ar hyd yr arfordiroedd gyda phroblemau i drafnidiaeth cyhoeddus o bosib.
Rhybuddwyd gyrrwyr i fod yn wyliadwrus rhag perygl fod canghennau coed wedi disgyn. Ddydd Gwener roedd yna lifogydd mewn rhannau o Gymru. Yn Abertawe, fe achoswyd difrod i fusnesau yn Abertawe ac effeithwyd ar y traffig oherwydd dŵr ar wyneb y ffordd a’r palmentydd.
Bu’n rhaid siomi cannoedd o fynychwyr Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst pan benderfynwyd ei gau oherwydd pryderon diogelwch am y tywydd gwael.
Heddiw, mae wedi bod yn bwrw yn drwm yn Llanrwst a’r cyngor ydi i bawb sydd am fynd yno i ddod a chot law, ambarel a sgidiau glaw gyda nhw.
Yn y cyfamser, dywed arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn “cadw llygad barcud” ar yr afonydd rhag ofn bod perygl iddyn nhw orlifo.