Mae elusen yr RNLI wedi cadarnhau na fydd bad achub Cei Newydd yn cael ei israddio am o leiaf dwy flynedd.

Yn 2017, fe gyhoeddodd yr RNLI eu bod yn bwriadu disodli bad achub aml-dywydd Cei Newydd gyda bad llai o faint erbyn 2020.

Daeth hyn er gwaethaf pryderon yn lleol na fydd modd defnyddio’r bad newydd mewn tywydd garw, sy’n golygu na fydd bad achub i wasanaethu 63 milltir o arfordir Cymru rhwng Abergwaun a’r Bermo.

Adolygu’r arfordir

“Gallwn gadarnhau y bydd y bad achub Mersey yng Nghei Newydd yn aros yn ei le tan 2021,” meddai llefarydd ar ran yr RNLI.

“Bydd adolygiad arfordirol o Fae Ceredigion yn cael ei gynnal yn 2021, felly does dim bwriad i symud y Mersey tan ar ôl yr adolygiad.

“Ond pe bai proffil achub a damweiniau’r ardal yn newid yn sylweddol, fe fyddwn ni’n gweithredu.”

 “Yr ymgyrch yn parhau”

Mae ymgyrchwyr lleol wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad gan yr RNLI, gan bwysleisio mai dim ond oedi’r cynlluniau dros dro mae’r elusen.

“Er bod hwn yn newyddion da, hoffem bwysleisio bod hwn yn ddim mwy na blwyddyn o estyniad, felly mae ein hymgyrch yn parhau,” meddai Ymgyrch Bad Achub Ceredigion.

“Mae’n fwy pwysig nag erioed i ddal ati i bwyso ar yr RNLI.”