Mae Russell George, llefarydd busnes y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod y newyddion fod £114m wedi cael ei wario ar gynllun yr M4 yng Nghasnewydd cyn ei ddileu yn “halen ar y briw”.

Daeth cadarnhad eisoes na fydd y cynllun ar gyfer ffordd liniaru’r draffordd yn y ddinas yn mynd yn ei flaen am resymau ariannol ac amgylcheddol.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Russell George yn gal war Ken Skates, Gweinidog yr Economi, i amlinellu’r amserlen ar gyfer sefydlu Comisiwn newydd i fynd i’r afael â phroblemau traffig yn y ddinas.

“Mae’r newddion fod trethdalwyr wedi talu £114m i ddatblygu cynlluniau ar gyfer prosiect ffordd liniaru’r M4 sydd bellach wedi cael ei ddileu yn ddigon i’ch gwylltio,” meddai.

“Daeth yr arian hwn o bocedi’r bobol sydd eisoes yn teimlo rhwystredigaeth yn sgil y cyhoeddiad ddoe, ac mae’r newyddion hwn ond yn rwbio halen ar y briw.

“Rydyn ni’n ôl i’r man cychwyn gyda Chomisiwn arbenigol arall yn cael ei benodi i edrych ar opsiynau amgen i gynlluniau Llywodraeth Cymru, ar ôl i £114m o arian trethdalwyr Cymru gael ei wario ar y gwaith yn arwain at yr adolygiad annibynnol dros ddwy flynedd.”