Adeilad arfaethedig Pontio ym Mangor
Mae gŵyl farddol yn digwydd ym Mangor dros y dyddiau nesaf i gyd-daro gyda Diwrnod Barddoniaeth Genedlaethol ddoe. Prosiect Pontio Prifysgol Bangor yw trefnwyr Gŵyl y Geiriau, sy’n parhau tan Hydref 18.
Cychwynnodd yr ŵyl yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd nos Fawrth, gyda chriw Corws Cerddi Conran yn darllen gwaith newydd y bardd enwog, Tony Conran.
“Tarddodd barddoniaeth yn wreiddiol o ddawnsio,” meddai’r bardd. “Dawns cyhyrau’r llais a’r geg ydi o, a ddaw o ddim yn fyw nes i chi ei weld a’i glywed o.”
Ymhlith y pigion fydd diwrnod o weithdai ymarferol yng nghanolfan amgylcheddol Moelyci yn Nhregarth ddydd Sul yma. Bydd bardd preswyl y ganolfan, Martin Daws, y bardd reggae Gwyn Parry, y bardd plant Sophie McKeand, a’r clerwr Twm Morys yn perfformio a hyfforddi.
“Dyma ŵyl farddoniaeth newydd sbon,” meddai llefarydd ar ran Pontio. “Dyma ddechrau perthynas newydd rhwng Pontio a chanolfan amgylcheddol y tu allan i Fangor, ac yn ymestyn allan i’r gymuned o gwmpas y ddinas. Mae arloesi a’r celfyddydau yn rhywbeth mawr yn Pontio – ac mae mynd â chelfyddydau allan i’r awyr agored yn rhywbeth y mae’n ei hyrwyddo.”
Heno bydd pedwar bardd o Slofenia, sydd ar eu taith i Dŷ Newydd, yn trafod dylanwadau rhyngwladol ar eu gwaith ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, a beirdd o Latfia a Macedonia yn perfformio yng nghaffi Blue Sky, Bangor ar Hydref 18.