Mae dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei saethu â  bwa croes ger Caergybi yn ystod oriau mân bore Gwener.

Cafodd y dyn 74 oed yr anafiadau difrifol oedd yn ddigon i beryglu ei fywyd y tu allan i’w gartref ger y gyffordd rhwng Lon Porthdafarch a Ffordd Plas.

Galwyd y gwasanaethau brys am 00:34 a chludwyd y dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru fod staff meddygol a gweithwyr ambiwlans “wedi brwydro i arbed bywyd y dyn.”

Ychwanegodd fod y weithred yn un “hynod o anarferol” ac nad oedden nhw yn gwybod ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal i gysylltu â nhw. Maen nhw hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd gyda theledu cylch cyfyng, neu gamera dashfwrdd i gysylltu.