Mae dyn 83 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl i’w feic modur adael y ffordd ger Aberogwr fore ddoe (dydd Gwener, Ebrill 12).

Fe ddigwyddodd am oddeutu 11.15yb ar ffordd B4254 wrth iddo deithio i gyfeiriad Aberogwr.

Cafodd y dyn oedrannus anafiadau i’w ben.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.