Tref fach ym Mhowys yw’r lle gorau i fyw yng Nghymru, yn ôl The Sunday Times.

Mae Crughywel ar gyrion Bannau Brycheiniog, ac eleni mae ymhlith 10 lleoliad sydd ar restr Brydeinig y papur newydd o’r llefydd gorau i fyw..

Enillodd y dref wobr y llynedd am safon ei stryd fawr, ac yn ôl ei thrigolion mae’r dref yn llwyddo dro ar ôl dro oherwydd yr ymdeimlad o “gymuned”.

Mae John Morris yn cynrychioli Crughywel ar Gyngor Sir Powys, ac mae e’n canmol awydd ei thrigolion i weithio gyda’i gilydd.

“Mae’n [llwyddiant] yn deillio o ymdeimlad cymunedol cryf,” meddai wrth golwg360. “Ac mae hynny i’w weld pan mae busnesau yn cydweithio, a phan mae trigolion yn cydweithio.

“Mae’n fraint i mi gael bod yn gynghorydd dros y dre. Os oes gennym ni broblem, rydym ni’n bwrw ati i’w datrys, yn hytrach nag aros i’r Cyngor neu’r Llywodraeth wneud hynny.”

Mae’n ategu bod trigolion wedi “gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf” i droi’r dref yn le deniadol i ymwelwyr yn ogystal â thrigolion.

Er hynny, mae’n pryderu y gallai “gormod” o bobol ymweld â Chrughywel yn dilyn y wobr ddiweddaraf.

“Mae’r busnesau i gyd yn croesawu ymwelwyr,” meddai. “Ond mae yna risg y gallwn gael gormod o ymwelwyr. Mae yna broblem yma o ran parcio, ac rydym yn ceisio mynd i’r afael â hynny.”

Byd natur

Mae Caroline Thomas yn berchennog siop ddillad yn y dref o’r enw Cw Cw Boutique, ac mae hi’n credu bod lleoliad Crughywel hefyd yn cyfrannu at ei llwyddiant.

“Mae yna deimlad cryf o gymuned yma,” meddai. “Dyn a beth sydd yn gwneud iddo deimlo mor sbesial. Ac mae’r lleoliad – yng nghanol Bannau Brycheiniog – yn bleser.

“Rydym wedi cael ein hamgylchynu gan harddwch natur. Mae yna gyfuniad o ymdeimlad cymunedol cryf, a byw mewn rhan hardd iawn o’r wlad. Rydym yn lwcus.”

Mae’n dweud bod Crughywel yn “gwneud yn dda” ar hyn o bryd, bod ysgolion yn “llawn” a bod pobol leol yn cefnogi’r siopau.

Mae “ychydig yn fwy” o bobol wedi ymweld â’r dref yn dilyn y wobr ddiwethaf, ond “dyw hi byth yn rhy brysur” yno, meddai, a dyw hi ddim yn disgwyl i niferoedd godi ymhellach.

Croesawu

Mae Amy Vale yn Is-reolwr ar siop lyfrau Bookish, ac yn canmol y dref am wrthwynebu siopau mawr ac archfarchnadoedd.

“Rydym yn gymuned,” meddai. “Mae pawb yn helpu ei gilydd. Mae hynny’n sbesial, a dydych chi ddim yn dod ar draws hynna mewn llefydd mwy.

“Mae’r stryd fawr yn hollol annibynnol. Mae gennym fferyllydd Boots, ond dyna yw’r unig siop gadwyn sydd yma.

“Ac mae pobol Crughywel yn awyddus i gefnogi busnesau annibynnol yn hytrach na siopau cadwyn ac archfarchnadoedd. Mae hynny’n helpu pawb. Mae’n helpu tyfu ein busnesau.

Mae’n dweud bod y dref wedi profi mwy o ymwelwyr ers ennill gwobr y llynedd, ac mae’n dweud y hoffai weld mwy yn ymweld â nhw.

“Hoffwn yn bendant,” meddai. “Cawn rannu Crughywel â phobol fyddai ddim wedi clywed am y lle fel arall.”