Mae Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond, wedi ymddiheuro ar ôl gorfod egluro fod ei £100m o arian ychwanegol ar gyfer mynd i’r afael â throseddau cyllyll ar gyfer Cymru a Lloegr – nid Lloegr yn unig.
Roedd wedi cyhoeddi yn ystod ei Ddatganiad y Gwanwyn yn gynharach heddiw, fod yr arian yn mynd i fod ar gael yn syth bin ar gyfer heddluoedd yn Lloegr i dalu gor-amser i blismyn sy’n gweithio ar achosion yn ymwneud â chyllyll.
Ond fe achosodd ei gyhoeddiad i David Hanson, Aelod Seneddol Delyn, ofyn os oedd Cymru “wedi’i hanghofio” unwaith yn rhagor.
“Dw i’n credu…” meddai Philip Hammond, gan oedi ychydig cyn gorffen ei ateb, “dw i’n ymwybodol o’r hyn y mae [David Hanson] yn cyfeirio ato, mae’r arian ar gyfer Lloegr… ie, Lloegr ydi o… Mae’n ddrwg gen i, mae fy nghydweithiwr yn c adarnhau wrtha’ i yn fan hyn fod yr arian ar gyfer Lloegr a Chymru…
“Dw i’n ymddiheuro iddo os oedd fy natganiad yn camarwain… Dw i’n cael ar ddeall… mae’r arian ar gyfer Cymru a Lloegr.”