Llun: Amgueddfa Wlan Cymru
Mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi croesawu mwy o ymwelwyr drwy’i drysau dros fisoedd haf 2011 nag unrhyw haf arall.

Mae 19,383 o ymwelwyr wedi bod yn yr Amgueddfa yn Nhre-fach Felindre yn Nyffryn Teifi  yn ystod chwe mis yr haf, o Ebrill i fis Medi. Mae hyn yn gynnydd o 236 o’i gymharu â 2009 pan fu 19,147 o ymwelwyr. Roedd y ffigwr ar ei lawr ychydig y llynedd, gyda 18,751 o ymwelwyr.

Dros y tair mlynedd diwethaf mae’r Amgueddfa wedi bod yn croesawu 25,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Dros fisoedd yr haf mae’r Amgueddfa wedi mwynhau cynnydd o 54%  yn ei ffigyrau ymwelwyr yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Ers cael ei ail-ddatblygu yn 2004 mae Amgueddfa Wlân Cymru, ar y cyfan wedi gweld cynnydd yn ei ffigurau ymwelwyr haf, o fis Ebrill i fis Medi, o 13,304 yn 2005 i 19,383 yn 2011.

Dywedodd Ann Whittall, Rheolwraig Amgueddfa Wlân Cymru: “Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod stori’r diwydiant gwlân yng Nghymru yn cael ei wneud yn hysbys i cyn gymaint o bobl â phosibl, boed yn bobol leol yn mwynhau eu treftadaeth neu yn dwristiaid  yn dysgu am hanes Cymru.“

Ychwanegodd: ”Mae gennym rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol yn targedu cynulleidfaoedd newydd a rhai presennol. Rydym yn gobeithio bydd y tueddiad hwn yn parhau a chyda nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio dros y gaeaf rydym yn gobeithio torri record misoedd y gaeaf hefyd.”