Stephen Craig (llun yr heddlu)
Mae dau o bobol wedi cael eu hanfon i garchar am fasnachu pobol – a hynny’n cynnwys rheoli puteiniaid yng Nghaerdydd.

Fe ymddangosodd y ddau o flaen llys yn yr Alban – un o’r troeon cynta’ i ddeddf newydd gael ei defnyddio yno.

Fe ddaeth yn amlwg fod Stephen Craig, 34 oed o Ystrad Clud, a Sarah Beukan, 22, o Leith yng Nghaeredin, wedi bod yn symud tua 14 o ferched o amgylch rhai o ddinasoedd gwledydd Prydain.

Roedd hynny’n cynnwys defnyddio fflatiau yn Canary Wharf, Caerdydd, ac yng nghanol y ddinas, yn ogystal â llefydd mewn dinasoedd eraill fel Belffast, Glasgow, Caeredin a Newcastle.

Trefnu a hysbysebu

Roedd y ddau’n trefnu teithio a llety i’r merched ac yn hysbysebu eu gwasanaethau ond, yn ôl eu cyfreithwyr, doedden nhw ddim yn defnyddio trais nac yn gorfodi’r merched.

Fe gafodd Stephen Craig ei anfon i’r charchar am dair blynedd a thri mis a Sarah Beukan am flwyddyn a hanner.

Roedd yna ferched o wledydd eraill hefyd yn gweithio yn y puteindai, ond does dim tystiolaeth fod y ddau’n prynu a gwerthu merched  tramor.

Ond roedd eraill yng ngwledydd Prydain yn anghyfreithlon ac roedd dwy’n fyfyrwyr prifysgol yn ceisio cael gwared ar ddyleldion.

‘Unigolion atgas’

Ar ôl yr achos, fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na fyddai masnachu pobol yn cael ei oedd’.

“Roedd yr unigolion atgas yma wedi cymryd mantais ar bobol anghenus a bregus a chyfnewid trueni am elw,” meddai.