Mae  cyfarwyddwr cwmni wedi ymddangos gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o ddynladdiad ar ôl i blentyn farw pan ddymchwelodd wal ar lwybr troed.

Cafodd Megan Burgess, 3 oed, ei lladd ar ol i wal ddisgyn arni wrth iddi gerdded gyda’i mam ar hyd Ffordd Penrhywylfa ym Mhrestatyn yng Ngorffennaf 2008.

Bu George Collier, 48, cyfarwyddwr  cwmni Parcol Developments Cyf, gerbron ynadon Prestatyn ar gyhuddiad o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod difrifol.

Roedd ei bartner yn y cwmni, Philip Bryn Parry, 59, hefyd wedi ymddangos gerbron y llys fel cynrychiolydd y cwmni sydd wedi ei chyhuddo o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch.

Mae disgwyl i Collier, o Fae Cinmel, ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar 14 Hydref ac fe fydd Parry yn ymddangos ar 4 Tachwedd.