Aamir Siddiqi
Mae’r rheithgor yn achos dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio myfyriwr 17 oed, wedi cael eu rhyddhau.

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth tu allan i’w gartref yn y Rhath, Caerdydd ym mis Ebrill y llynedd. Cafodd rhieni’r myfyriwr hefyd eu hanafu yn yr ymosodiad.

Fe ddechreuodd yr achos yn erbyn Ben Hope, 37, a Jason Richards, 36 yn Llys y Goron Caerdydd wythnos ddiwethaf. Mae’r ddau wedi eu cyhuddo o lofruddio Aamir Siddiqi ac o geisio llofruddio ei rieni. Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau.

Cafodd y rheithgor eu rhyddhau heddiw ar ôl i’r barnwr Roderick Evans ymgynghori gyda chyfreithwyr yr erlyniad a’r amddiffyniad.

Fe dyngodd rheithgor newydd lw  heddiw ac yfory fe fydd  yr erlynydd, Patrick Harrington, yn ailddechrau ei araith gychwynnol.