Mae cwest i farwolaeth peldroediwr Caerdydd, Emiliano Sala, wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad “i anafiadau i’w ben a chanol ei gorff.”

Roedd y pêl-droediwr o’r Ariannin yn teithio o Nantes i Gaerdydd mewn awyren fechan pan ddiflannodd wrth hedfan dros y Sianel ger Guernsey ar Ionawr 21.

Roedd yr awyren yn cael ei hedfan gan y peilot David Ibbotson, 59 oed.

Cafodd corff Emiliano Sala, 28, ei godi o weddillion yr awyren ar wely’r môr wythnos ddiwethaf a’i gludo i’r lan yn Portland.

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yn Llys y Crwner Bournemouth heddiw (dydd Llun, 11 Chwefror).

Mae’r Crwner Brendan Allen wedi gohirio’r cwest tan 6 Tachwedd ar gyfer adolygiad cyn cwest, ar ôl clywed y gallai ymchwiliad y Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) i’r digwyddiad gymryd rhwng chwe mis a blwyddyn.

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd am £15 miliwn ac yn teithio nôl i ymarfer gyda’r clwb pan fu farw.