Mae person yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Dolwyddelan a gafodd ei achosi gan gerbyd a oedd yn ceisio dianc rhag yr heddlu.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd swyddogion yn ceisio atal y cerbyd yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Mercher, Chwefror 6) pan fu’r digwyddiad ar ffordd yr A470.

Cafodd gyrrwr y cerbyd ei arestio yn y fan a’r lle, tra bo teithiwr yn yr un cerbyd wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n cael eu disgrifio’n fygythiad i’w fywyd.

Dywed yr heddlu ymhellach eu bod nhw wedi cyfeirio’r achos Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) er mwyn ystyried eu rhan nhw yn y digwyddiad.

Does dim manylion ynghylch pam yr oedd yr heddlu’n ceisio atal y cerbyd.